Beth yw Esperanto?
o "Esperanto/Kimra Vortaro" gan J.C. Wells

Y mae Esperanto yn iaith ryngwladol - yr iaith ryngwladol. Dyfeisiwyd gan y Dr Zamenhof yn 1887 er mwyn hwyluso'r nod o gael pobloedd y byd oll i ddeall ei gilydd yn well. Siaredir Esperanto erbyn hyn gan fwy na miliwn o bobl ar bob cyfandir o'r byd. Yn wir trawsffurfiwyd hi o fod yn gynllun a grewyd ym myfyrgell un dyn i fod yn iath fyw, lafar, lenyddol.

Nid yw Esperanto wedi ei bwriadu i ddisodli'r un iaith genedlaethol; yn hytrach bwriedir iddi fod yn ail iaith i bawb o bobl y byd. Nid yw lledaenu Esperanto yn golygu anwybbyddu ieithoedd y lleiafrif: i'r gwrthwyneb ei bwriad yw eu diogelu.

Mae ei chefnogwyr yn credu fod gan Esperanto ddwy brif fantais: ei bod yn niwtral, a'i bod yn hawdd i'w dysgu.

Ni pherthyn Esperanto nac i un wlad yn neilltuol nac i un blaid yn arbennig. Dyna wahaniaeth pwysig rhyngddi hi a'r ymgeiswyr eraill sy'n ceisio datrys y broblem o gyfathrebu rhyngwladol (e.e. y Saesneg). Yn y byd cyfoes mae imperialaeth ieithyddol yn ffaith. Bygythir dileu ieithoedd a diwylliannau y cenhedloedd bychain. Fe ddengys astudiaethau diweddar fow a wnelo economeg a gwleidyddiaeth rym llawer iawn â'r modd y defnyddir un iaith ar draul y llall. Ni fyddai defnyddio iaith gyffredinol niwtral, fel Esperanto, yn ffafrio unrhyw wlad yn hytrach na'r llall.

Nid oes yn Esperanto yr un afreoleidd-dra nag eithriad. Mae pob adran ohoni'n rheolaidd ac mae'r baicho ddysgu geiriau wedi ei gryn ysgafnhau drwy ei system athrylithgar o ragddodiaid, alddodiaid, a therfyniadau gramadegol. Heblaw am hyn mae Esperanto yn rhyngwladol o ran ei hadeiladwaith ieithyddol. Mae ei sylfaen geiriadurol yn tarddu oddi wrth wahanol ieithoedd Indo-Ewropeaidd, ac yn arbennig o'r Ffrangeg, Lladin, Almaeneg, Saesneg a Rwsieg. (Mae ambell air yn hawdd iawn i'r Cymro Cymraeg ei adnabod, e.e fenestro (ffenestr), muro (mur, wal), kredi (credu), ponto (pont), tridek na (tri deg naw).) Mae cystrawen y frawddeg Esperanto yn dilyn patrymau cyfarwydd Ewropeaidd, er nad yw ffurfiant geiriau (morffoleg) Esperanto yn nodweddiadol o ieithoedd Ewropeaidd o gwbl, gan ei fod yn 'gyfludiol' (aglutina, Saesneg: aglutinative): mae pob gair wedi ei adeiladu o elfennau â chanddynt ffurf ac ystyr cyson. Fe geir yr un drefn gyfludiol mewn Tyrceg, mewn Japaneg, yn yr iethoedd Bantw, etc.: mae hi'n gyfleus iawn i'r dysgwr.

Y gymdeithas sydd yn gofalu am ochr rynwladol y mudiad Esperantaidd yw

Universala Esperanto-Asocio,
Nieuwe Binnenweg 176,
3015 BJ Rotterdam,
Yr Iseldiroedd.

Ar gyfer Prydain ceir y

British Esperanto Association,
140 Holland Park Avenue,
Llundain W11 4UF.
Tel: 0171-727-7821
Fax: 0171-229-5784
Llythrau electroneg: eab@esperanto.demon.co.uk


Federasiwn Esperanto Cymru